• Organisation
      Shared Lives Plus
      Salary
      Cyflog £29,000-£32,000 (yn ôl y raddfa)
      Location
      Cymru
      Closing Date
      10 February 2012
      Ref No

      Job Type
      Rhan amser 28 awr yr wythnos (contract am 3 blynedd hyd at 2015)
      Date Posted
      18 January 2012

      Job description

      Mae Cysylltu Bywydau yn helpu pobl i fyw bywyd cyflawn o fewn eu teulu a’u cymuned. Defnyddir Cysylltu Bywydau yn llwyddiannus gan gannoedd o bobl anabl ac agored i niwed ond mae’n dal i fod yn anhysbys i lawer a heb ei ddefnyddio ddigon.

      Mae gan Cysylltu Bywydau bellach gyfle i gyfranogi’n sylweddol wrth lunio dyfodol gwasanaethau gofal a chefnogi yng Nghymru, trwy weithio gyda grwpiau mor amrywiol â rhieni sydd ag anableddau dysgu a phobl hŷn a fyddai’n well ganddynt gael eu cefnogi o fewn cartrefi teuluol cyffredin gofalwyr awdurdodedig Cysylltu Bywydau a’u teuluoedd.

      Mae arnom angen gweithiwr profiadol sydd â’r gallu i ysbrydoli er mwyn cael y newid aruthrol hwn. Ariennir y prosiect hwn am dair blynedd i ddechrau gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn cefnogi cynlluniau Cysylltu Bywydau Cymru i ehangu a chyrraedd grwpiau newydd a chymunedau sy’n cael eu hanwybyddu. Wrth weithio gyda llywodraeth leol a chenedlaethol, grwpiau eirioli, a chynlluniau a gofalwyr Cysylltu Bywydau presennol yng Nghymru, byddwch yn cyfrannu hefyd at ddatblygu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu arfer Cysylltu Bywydau.

      Rhwydwaith y DU yw Cysylltu Bywydau Ychwanegol ar gyfer dulliau o gefnogi oedolion sy’n syml ac yn seiliedig ar y teulu. Mae’n cynnwys Cysylltu Bywydau (Lleoli Oedolion yn gynt), rhannu cartref a micro-fenter. Mae’n haelodau’n galluogi pobl i gyflawni nodau megis:

      • cael rheolaeth dros eu gwasanaethau a’u bywydau.
      • canlyn bywydau arferol o fewn y teuluoedd a’r perthnasau o’u dewis.
      • cael eu gwerthfawrogi gan eu cymunedau a theimlo fel eu bod yn aelod ohonynt.


      Rydym yn helpu ein haelodau i weithio gyda’i gilydd i oroesi, ffynnu a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, trwy ymgyrchu, ymchwilio, a darparu cymorth, hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau.

      Am wybodaeth bellach a phecyn ymgeisio, gofynnir i chi ymweld ag ardal Swyddi a Chynigion ar ein gwefan www.SharedLivesPlus.org.uk
      neu gysylltu â ni ar 0151 227 3499

      Dyddiad cau am ymgeisiadau wedi’u cwblhau: 10 yb., 10 Chwefror
      Cyfweliadau yng Nghaerdydd ar 29 Chwefror
       

      Rhif elusen cof. (Lloegr a Chymru): 1095562              Rhif elusen cof. (Yr Alban): SC042743
      Rhif cwmni: 4511426
       

  • Post your jobs

    • As a member, you can advertise your jobs for free via our quick and easy online service.
  • 226x220_15

    Newsletter signup

    • Stay up to date with developments on social care training
    • News on the latest events and courses
    • Find out how to get involved